ASESIAD O’R EFFAITH AMGYLCHEDDOL
Cyn i Lywodraeth y DU gydsynio i’r prosiect, mae’n ofynnol i ni gynnal Asesiad manwl o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Roedd cyfnod cyntaf yr AEA yn cynnwys llunio adroddiad rhychwantu ffurfiol a nodai’r prif ystyriaethau o ran sensitifeddau amgylcheddol y gellid effeithio arnynt, o bosibl, gan ein Prosiect, ehangder y wybodaeth amgylcheddol hysbys, a pha raglenni casglu data ychwanegol y byddai angen eu cynnal. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Gorffennaf 2004 i ystod eang o randdeiliaid (150+) gael ei adolygu. Rheolwyd sylwadau yn ei gylch gan Yr Adran Masnach a Diwydiant a gynhyrchodd ymateb ffurfiol wedi hynny, a galluogodd y sylwadau hyn i’n tîm prosiect addasu’r broses AEA.
Bydd y broses ymgynghori, a ddechreuodd cyn y broses rychwantu AEA, yn parhau ar y cyd â’r holl bartïon perthnasol trwy gydol y prosiect er mwyn sicrhau bod yr ystyriaethau a’r sensitifeddau amgylcheddol allweddol yn parhau i gael eu deall yn llawn ac ymdrin â nhw’n briodol.
Y broses AEA
Diben yr AEA fu nodi ac asesu effaith bosibl ein prosiect, trwy gydol ei oes (h.y. adeiladu, gweithrediadau a datgomisiynu), ar yr amgylchedd corfforol, biolegol a dynol lleol a, lle bo’n briodol, cynghori ynghylch mesurau addas i leihau’r cyfryw effeithiau. I gefnogi’r broses hon, cwblhawyd ystod o raglenni casglu gwybodaeth, gan gynnwys:
| •
|
Astudiaethau i gasglu data am adar môr |
| •
|
Astudiaethau benthig (ffawna) is-lanw a rhynglanw |
| •
|
Astudiaethau mordwyol ac asesu’r risg o wrthdrawiadau |
| •
|
Adolygiadau o’r ecoleg pysgod, cregynbysgod a mamaliaid morol |
| •
|
Adolygu prosesau gwely’r môr a’r arfordir |
| •
|
Adolygu effeithiau economaidd-gymdeithasol |
| •
|
Astudiaethau i asesu’r effeithiau gweledol |
| •
|
Astudiaethau o’r cynefin daearol |
Y Datganiad Amgylcheddol
Adroddiad sy’n nodi proses yr AEA yw’r Datganiad Amgylcheddol (DA). Erbyn hyn, cwblhawyd ein DA ac fe’i cyflwynwyd yn ffurfiol i Lywodraeth y DU ar 8 Gorffennaf 2005. Rhoddwyd cyfle i’r holl randdeiliaid y gellid effeithio arnynt, o bosibl, adolygu’r DA ac ymateb yn ffurfiol i’r rheoleiddiwr.