Kathleen
Morris, Prif Swyddog Cyllid
Banciwr masnachol/benthyciwr yw Kathleen Morris yn ôl ei hyfforddiant, ac mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad ym marchnadoedd ariannol y DU ac UDA. Daw â phrofiad arbennig ym maes rheoli asedau ariannol byd-eang ac ariannu strwythuredig y sector ynni. Yn fwy diweddar, bu ganddi swydd mewn cwmni cynhyrchu ynni rhyngwladol pwysig a oedd yn cynnwys ailstrwythuro’r portffolio asedau Ewropeaidd a threfnu ac ailstrwythuro dyledion y prosiect. Cyn hynny, bu Kathleen yn gweithio i fanciau yn y DU ac UDA, gan arwain syndicadau amlwladol, aml ffynhonnell mawr blaenllaw ym maes trafodion Cyllid Prosiect heb atebolrwydd, yn bennaf i gynhyrchwyr ynni annibynnol.