Eclipse Logo            
     
 
Chris Smith      
Chris Smith PhD - Cyfarwyddwr, Resource Geoscience (Cyfarwyddwr Sefydlol)

Mae gan Chris Smith ugain mlynedd o brofiad ym maes geowyddoniaeth, gyda chwmnïau olew a nwy yn y sector gwasanaethu a’r sector annibynnol ill dau. Dechreuodd ar ei yrfa ym 1981 fel geoffisegwr dehongli gyda Horizon Exploration ac yna bu’n gweithio i Kerr McGee ac ARCO British Limited rhwng 1985 a 1992, adeg y daeth yn Geoffisegwr Ymgynghorol a oedd yn gweithio ar ystod eang o aseiniadau. Mewn aseiniad diweddar gyda Kerr-McGee, bu’n gyfrifol am nifer o brosiectau a oedd yn gofyn am gymhwyso dulliau geoffisegol ar gyfer darlunio meysydd ffiniol, sy’n arbennig o berthnasol i fodel busnes Eclipse Energy. Gydag Eclipse Energy, ef yw’r Cyfarwyddwr Geowyddoniaeth Adnoddau sy’n gyfrifol am geowyddoniaeth mewn perthynas â gwerthuso cronfeydd ac am fonitro perfformiad cronfeydd o ran cynhyrchu.