CYFFREDINOL AMGYLCHEDDOL
EFFEITHIAU LLEOL BUDDION ECONOMAIDD
CYFFREDINOL
C Pa fath o ddatblygiad alltraeth fyddai’n digwydd? Pa mor agos at y traeth?
A Byddai’r datblygiad yn cynnwys dwy lwyfan fach a nifer o dyrbinau gwynt. Bydd yr union leoliad yn destun ymgynghori.
C Pwy yw Eclipse?
A Cwmni ynni annibynnol newydd o Brydain yw Eclipse. Mae ei bersonél, ymgynghorwyr a chontractwyr oll yn hynod brofiadol ym maes gweithrediadau ynni alltraeth.
C Sut y mae maint eich cronfa yn cymharu â’r rhai ym Môr y Gogledd?
A Mae’r cronfeydd yn sylweddol llai na llawer o’r rhai sy’n cynhyrchu ym Môr y Gogledd.
C Pa mor fawr yw’r maes nwy o’i gymharu â maes nwy Morecambe?
A Mae dau faes Eclipse yn gymharol fach o’u cymharu â meysydd Bae Morecambe. Maent yn rhyw 1% o’r maint.
C Rwy’n deall bod y cronfeydd nwy yn fach ac na fyddant yn para’n hir. Beth fydd yn digwydd pan fyddant wedi disbyddu?
A Ar ôl i’r cronfeydd nwy ddisbyddu dros 6 i 12 mlynedd, gellir symud y llwyfan i’w ailddefnyddio yn rhywle arall. Bydd y tyrbinau gwynt yn parhau i gynhyrchu.
C A fyddwch chi’n ymgynghori â buddiannau pysgota ynglŷn â’r safle gorau i’r gwaith?
A Bydd y cyfleusterau yn gymedrol eu maint. Pennir y lleoliad ar ôl ymgynghori, er mwyn lleihau unrhyw wrthdaro â gweithgaredd llongau neu bysgota.
C Faint o amser y bydd y weithred gyfan yn ei chymryd, a phryd fydd yn cychwyn?
A Cyflwynom ein Datganiad Amgylcheddol ym mis Gorffennaf 2005 ac ennill cymeradwyaeth ym mis Chwefror 2007. Trefnir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod 2009.
C Rwy’n deall eich bod yn adeiladu fferm wynt alltraeth yn ogystal â’r llwyfan nwy, ble y lleolir honno?
A Mae’r fferm wynt a’r tyrbin nwy i’w lleoli tua 9.5km i’r gorllewin o Walney Island, Barrow-in-Furness.
C Beth fyddwn ni’n ei weld? Beth fydd maint y llwyfan a ddefnyddir?
A Gosodiad graddfa fach fydd y llwyfan, a fydd yn cadw’r ymyrraeth weledol i lefel isel. Lleolir y tyrbinau gwynt gerllaw’r llwyfan. Gweler y montage ffotograffig.
C Pa adeg o’r flwyddyn y byddwch yn drilio? Sawl ffynnon fydd yn weithredol?
A Bydd union adeg y gweithrediadau drilio yn destun ymgynghori. Mae ein cynlluniau presennol yn ei wneud yn ofynnol drilio dim mwy na thair ffynnon cynhyrchu trwy gyfan oes y prosiect.
C A yw ceblau trydan ar wely’r môr yn ddiogel?
A Yn gyffredin â’r rhan fwyaf o geblau eraill o dan y môr, caiff ein cebl ni ei gladdu o dan wely’r môr.
BACK
TO TOP
AMGYLCHEDDOL
C Pa fesurau a gymerir i ystyriaeth i leihau nifer yr adar sy’n taro yn erbyn llafnau’r tyrbinau?
A Mae astudiaethau a wnaed yn yr UDA ac mewn mannau eraill yn dangos bod nifer yr adar sy’n cael ei lladd o ganlyniad i daro yn erbyn llafnau’r tyrbinau yn isel iawn. Bydd Eclipse yn monitro unrhyw ddata pellach a geir ynglŷn â’r mater hwn.
C A fydd y llwyfan wedi’i goleuo gyda’r nos?
A Byddai’r llwyfan wedi’i goleuo rhywfaint yn ystod y nos i sicrhau diogelwch o ran symudiadau llongau ac awyrennau.
C Os bydd olew yn cael ei olchi ar y traeth yn Walney Island, a fydd unrhyw niwed i fywyd gwyllt?
A Nid ydym ni’n cynhyrchu olew, dim ond nwy.
C Os byddwch chi’n llosgi’r nwy i gynhyrchu trydan, a fyddwch chi’n ei ffaglu oddi ar y traeth? Oni fydd hyn yn effeithio ar ecoleg yr ardal?
A Nid ydym ni’n bwriadu ffaglu nwy ac eithrio yn ystod y cyfnod adeiladu a chomisiynu, os o gwbl.
BACK
TO TOP
EFFEITHIAU LLEOL
C Mae ffermydd gwynt gennym ni yma eisoes, pam fod angen un ar y môr arnom hefyd?
A Mae’r llywodraeth wedi cydnabod na ellir cynnal y defnydd o danwydd ffosil, ac mae wedi ymrwymo i helpu hyrwyddo ynni o ffynonellau adnewyddadwy. I fodloni’r gofynion hyn o ran ynni, rhaid i ffermydd gwynt fod yn fwy a symud i’r môr.
C Ydych chi wedi ymgynghori â’r cyngor a’r trigolion lleol?
A Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â rhaglen ymgynghori lawn.
C A fyddai cynnydd mewn traffig ffordd?
A Nid ydym yn disgwyl i weithrediadau o ddydd i ddydd achosi cynnydd mewn traffig ffordd.
C Pa borthladdoedd a ddefnyddir fel sylfaen gyflenwi i’r gwaith?
A Ni ddaethpwyd i benderfyniad hyd yn hyn.
C I ba raddau y bydd modd gweld y datblygiad hwn o’n cyrchfannau glan-y-môr?
A Cynhyrchwyd asesiad manwl o’r effaith weledol, a gallwch weld y canfyddiadau yn y Crynodeb Annhechnegol.
C Pa effaith fydd datblygiadau fel leiniau peipiau yn eu cael ar y bobl leol?
A Ni fydd y prosiect yn allforio ei ynni trwy linell beipiau.
C A fyddwch chi’n defnyddio maes awyr Walney?
A Ni wnaed unrhyw gynlluniau hyd yn hyn ynghylch defnyddio isadeiledd lleol penodol. Anaml y ceir symudiadau awyrennau i’r llwyfan, ac fel arfer byddant yn ystod oriau golau dydd. Yn gyffredinol, defnyddir llongau ar gyfer symudiadau yn ôl ac ymlaen o’r llwyfan a’r tyrbinau gwynt.
C Pa dystiolaeth o’ch gweithrediadau fydd ar y tir mawr?
A Bydd gofyn am ystafell reoli a sylfaen ar y traeth arnom ar y tir mawr i gefnogi gweithrediadau alltraeth, ac mae’n debygol y lleolir y rhain gyda’r cyfleusterau ABP yn Barrow-in-Furness. Byddai’r cebl allforio yn croesi Bae Morecambe ac yn ymuno ag iard drefnu sy’n bodoli eisoes ger Heysham.
BACK
TO TOP
BUDDION ECONOMAIDD
C Pa fanteision fydd Barrow a Cumbria yn eu gweld?
A Mae’r buddion posibl i Barrow a Cumbria yn cynnwys nifer o swyddi hirdymor ar flaen diwydiant y disgwylir iddo weld tyfiant sylweddol yn ystod y degawd nesaf a thu hwnt. Gyda chyfleusterau porthladd a sylfaen sgiliau’r ardal ym maes peirianneg, mae’r ardal mewn sefyllfa dda i elwa ar y gweithgaredd hwn.
C Ai diwydiant adeiladu llongau Barrow fydd yn cael y gwaith o adeiladu’r llwyfan a’r tyrbinau gwynt?
A Bydd tendrau ar gyfer adeiladu, o reidrwydd, yn cydymffurfio â rheolau’r UE ar gyfer cystadleuaeth. Mae’n amlwg bod gan yr ardal sylfaen sgiliau sy’n bodoli eisoes sy’n gymwys i wneuthuriad alltraeth, a gobeithio y bydd contractwyr lleol yn cyflwyno cynigion.
C A fydd gweithwyr lleol yn cael eu cyflogi wrth adeiladu’r cyfleusterau cynhyrchu?
A Y contractwyr adeiladu fydd yn penderfynu hynny yn y pen draw, ond mae’r Cwmni yn dymuno gweld y boblogaeth leol yn cyfranogi at y prosiect.
C Faint o swyddi hirdymor a gaiff eu creu er mwyn rhedeg y gwaith?
A Rydym yn disgwyl y caiff tua deuddeg o swyddi hirdymor eu creu i weithredu a chynnal y cyfleusterau. Efallai y bydd busnesau cefnogi a chyflenwi eraill yn dilyn.
BACK
TO TOP