Ian
Hatton BSc (Hons) - Rheolwr Gyfarwyddwr (Cyfarwyddwr Sefydlol)
Dechreuodd Ian Hatton ei yrfa â Phillips Petroleum Company ym 1979 ac mae ganddo ddwy flynedd ar hugain o brofiad yn sector alltraeth Gogledd-Orllewin Ewrop. Yn Phillips Petroleum, datblygodd arbenigedd o ran gwerthuso cronfeydd Chalk Group, gan ddatblygu model arfarnu arloesol a llwyddiannus ar gyfer Joanne Field gan fynd ag ef o statws is-economaidd i fasnachol. Ymunodd â Kerr-McGee Oil (DU) CCC ym 1984, gan gael ei benodi yn y pen draw yn Gyfarwyddwr Archwilio, gyda chyfrifoldeb dros adeiladu a chynnal cysylltiadau busnes ag adrannau llywodraeth y DU ac adrannau llywodraethau eraill a chwmnïau partner. Ynghyd â chyn cyd Gyfarwyddwr Eclipse, Stephen Knight, bu’n gyfrifol am reoli’r prosiect i ddrilio ffynnon archwilio ym mloc 97/12 Lyme Bay. Derbyniodd wobr gan Kerr-McGee am ei waith o ran "arweinyddiaeth mewn rhagoriaeth amgylcheddol” am reoli’r holl waith a fu’n gysylltiedig â chynnal dadansoddiadau gwaelodlin amgylcheddol a drilio ffynnon 97/12-1 yn Lyme Bay yn ystod 1995. Bu’n ymwneud ag ymgynghori’n helaeth â grwpiau buddiant, cyfweliadau â’r cyfryngau, a chysylltu â llywodraeth leol.
Ymadawodd Ian â Kerr-McGee ym mis Chwefror 1999, ac wedi hynny sefydlodd Eclipse Energy a bu’n ddechreuwr y cysyniad busnes. Bu’n ymwneud â’r ymchwil gychwynnol a fformiwleiddio’r cysyniad, a drafftiodd Cynllun Busnes y Cwmni. Cyflwynodd Fodel Busnes y Cwmni i Adran Masnach a Diwydiant y DU ym mis Mawrth 1999. Wedi hynny, bu’n gweithio i recriwtio’r tîm rheoli ac i sefydlu cysylltiadau busnes i Eclipse. Enillodd ei radd B.Sc. (Anrh.) mewn Daeareg yn CNAA/Polytechnic Gogledd Llundain ym 1979, a pharhaodd ag ymchwil PhD rhan-amser ynghylch cronfeydd Chalk Group drwy’r CNAA / Y Brifysgol Agored.
.