 |
Cwmni sy’n ymwneud ag ynni cyn iddo gyrraedd purfa yw Eclipse sy’n datblygu adnoddau naturiol carbon isel, ynni nwy a gwynt naturiol yn bennaf. Nod Eclipse Energy yw defnyddio datrysiadau technegol ymarferol, masnachol ac amgylcheddol-gadarn er mwyn dylunio, adeiladu a gweithredu ei brosiectau ynni drwy eu cylchoedd bywyd llawn hyd at datgomisiynu. Bwriad y Cwmni yw datblygu cysyniadau arloesol ar gyfer cynhyrchu ynni. Mae’r polisi sy’n tanategu gweithrediadau Eclipse Energy yn datgan y bydd iechyd a diogelwch ei gyflogeion a chontractwyr, a pharch at yr amgylchedd, yn cymryd blaenoriaeth dros gynhyrchedd neu hwylustod. |
 |
 |