Eclipse Logo            
     
spacer
EIS  
 


PROSIECT ORMONDE
Mae Prosiect Ormonde yn brosiect arloesol, sy’n integreiddio cynhyrchu ynni trwy losgi nwy o feysydd nwy ar ddiwedd eu hoes neu feysydd nwy ‘braenar’, a’u defnyddio fel catalydd masnachol er mwyn datblygu a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o gynllun cynhyrchu ynni gwynt alltraeth. Mae model busnes y cwmni yn defnyddio meysydd nwy tanddatblygedig y daethpwyd o hyd iddynt a ollyngwyd gan weithredwyr eraill neu a brynwyd oddi wrthynt. Nid yw’r cysyniad yn gofyn am grant cyfalaf oddi wrth y cynulliad, ac mae’n fasnachol ymarferol ac yn annibynnol ar fentrau fel hyn.

Mae Prosiect Ormonde yn dangos enillion gwell o ran economeg a buddsoddi trwy:

  • Arallgyfeirio incwm a llif arian parod o ddwy ffynhonnell ynni heb amlygu i brisiau cyfnewidiol nwy naturiol     
  • Cyd-ddatblygu cynlluniau cynhyrchu ynni arallgyfeiriedig sy’n arwain at gostau gweithredu is trwy isadeiledd a rennir ac a ddatblygwyd ar y cyd
  • Mynediad at refeniw premiwm o gynllun y TYYA (Tystysgrif Ymrwymo i Ynni Adnewyddadwy) ar gyfer ynni gwynt a photensial ar gyfer cynhyrchu ynni nwy sy’n brigo     

Cwmni ynni annibynnol newydd o Brydain yw Eclipse Energy Company Limited sy’n cydnabod cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol ar gyfer dyfodol diwydiant ynni alltraeth y DU yn yr 21ain Ganrif. Roedd ennill y drwydded nwy yn 2001 yn gam cyntaf pwysig i’r Cwmni tuag at ei nod o gynhyrchu ynni o adnoddau confensiynol ac adnewyddadwy ill dau.

Mae Ystad y Goron wedi caniatáu Prydles am gonsesiwn gwynt trideg tyrbin ar delerau ‘Rownd Un’. Cynhelir y datblygiad o dan nawdd cwmni arbennig i’r diben, sef Ormonde Energy Limited.

Ein hopsiwn dewisedig yw datblygu cynllun cyd-ddatblygu alltraeth unigryw, lle byddai ynni’n cael ei gynhyrchu o ddau faes nwy bach, sef Gogledd Ormonde a De Ormonde, ac o fferm wynt alltraeth gyfagos, gyda’r trydan yn cael ei drosglwyddo trwy gebl i’r Grid Cenedlaethol.

Bydd ein cynllun yn cynhyrchu trydan o’r tyrbinau gwynt, ond yn ystod amodau o osteg yn y tywydd neu gyfnodau lle bydd y tyrbinau gwynt yn cael eu hatal, gellir cynhyrchu trydan o hyd o’r cronfeydd nwy trwy lwyfan cynhyrchu alltraeth, er mwyn darparu allbwn trydan hyblyg i fodloni anghenion y Grid Cenedlaethol. Gallai’r cynllun hwn gynhyrchu digon o drydan i ddarparu ynni i fwy na 155,0001,2 o gartrefi, y byddai 71,0001 ohonynt yn cael eu gyrru gan ynni adnewyddadwy.

  • Prosiect Cynhyrchu Ynni Alltraeth gwerth tua 200 MW
  • Yn cael ei yrru gan gronfeydd nwy a chynhyrchu ynni trwy wynt 
  • Allforio Ynni trwy gydgysylltydd cebl   
  • Bywyd y prosiect - 25 mlynedd o leiaf    
  • Cyfanswm gwariant cyfalaf £280m

1 Ar sail cyfartaledd defnydd ynni o 4700kW awr ar gyfer pob cartref, fel yr adroddwyd gan grynhoad ystategau ynni’r DU 2002

2 Yn dibynnu ar y ffordd y caiff y tyrbinau nwy eu gweithredu   

Buddion Lleol 
Mae adnoddau, cyfleusterau a phrofiad sylweddol gan y rhanbarth o ran peirianneg, dylunio ac adeiladu busnes, sy’n ddeniadol i ddatblygwyr. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd tîm y prosiect yn edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio cyfleusterau a phersonél lleol. Yn ystod y cyfnod adeiladu, caiff sawl cant o swyddi eu creu yn yr ardal, a thrwy gydol y cyfnod gweithredol caiff nifer o swyddi hirdymor eu creu yn y ganolfan reoli a gweithrediadau. Petai sylfaen gynhaliaeth yn cael ei sefydlu yn yr ardal, gellid creu swyddi hirdymor ychwanegol.

 

 

 

 

 

3D Animation

Download the Ormonde
Project conceptual animation

Photo Prediction (small)
Click on the Image above for an enlarged view of the Ormonde Project
 

Click on the map above for an enlarged view

Environmental Impact Assessment

Technical Information

FAQs

View the Notice of application for an electricity generation licence

 Ormonde Project Facts
Wind
Natural Gas
 Revenue Split
80%
20%
 Installed Capacity
108MW
93MW
 Generated Electricity
59%
41%

Timeline