Richard
Squires - Cadeirydd Anweithredol
Mae Richard (Rick) Squires yn rheoli PiEnergy, sy’n darparu gwasanaethau addysg ymgynghori a rheoli i’r diwydiant ynni. Mae hefyd yn uwch ymgynghorydd i gwmni chwilio gweithredol sy’n arbenigo yn y sector Ynni Adnewyddadwy. Mae ganddo brofiad helaeth yn y busnes ynni rhyngwladol ar lefelau rheoli uwch ar draws ystod eang o weithgareddau a thanwyddau. Am bedair blynedd, tan ddiwedd 2002, fe’i lleolwyd yn Boston, UDA fel Uwch Ddirprwy Lywydd, Cynllunio, Strategaeth a Chysylltiadau Buddsoddwyr i InterGen, cwmni ynni rhyngwladol a chanddo fwy na 100 o gyflogeion ac 16 GW o ffatrïoedd mewn deg o wledydd.
Cyn ymuno ag InterGen, bu’n bennaeth ar y Power Business oddi mewn i Shell Gas and Power, Llundain, a bu’n arweinydd y tîm a brynodd 50% o InterGen oddi wrth Bechtel ym 1997. Parodd ei yrfa yn Shell am 25 mlynedd, ac roedd hefyd yn cynnwys safleoedd uwch reoli yn yr adrannau Masnachu Olew Rhyngwladol, Datblygu Busnes Glo a Marchnata. Er ei fod wedi’i leoli’n bennaf yn Llundain, cafodd aseiniadau â chwmniau Shell yn Ne Affrica a Siapan hefyd. Cyn ymuno â Shell, bu’n gweithio fel peiriannydd i South Western Electricity Board yn y DU.
Mae gan Rick Radd Anrhydedd mewn Peirianneg Trydanol o Brifysgol Lancaster a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Durham, DU; mae’n aelod o’r Sefydliad Peirianwyr Trydanol, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a hefyd y Sefydliad Ynni.