Eclipse Logo            
     
spacer
Contact Us  

 

 

Sefydlwyd Eclipse Energy UK CCC ym mis Chwefror 1999 gan weithwyr proffesiynol yn y sector ynni a chanddynt brofiad helaeth fel uwch reolwyr ac o agwedd dechnegol y sector. O ganlyniad i’r profiad blaenorol hwn, mae gan Eclipse wybodaeth ymarferol hynod dda o’r sector ynni alltraeth, yr amgylchedd gwaith, cefndir rheoleiddiol a’r diwydiant contractio. Mae wedi defnyddio’r sylfaen wybodaeth hon i sefydlu sylfaen cefnogi contractwyr briodol ar gyfer ei weithgareddau yn y busnes gwynt a nwy ill dau.

Eclipse yw’r cwmni ynni cyntaf i drosglwyddo disgyblaethau, profiad a thechnoleg busnes Archwilio a Chynhyrchu Olew a Nwy alltraeth i hyrwyddo datblygu masnachol ynni gwynt alltraeth. Cwmni preifat heb ei ddyfynnu yw Eclipse Energy, a chanddo tua 90 o gyfranddeiliaid sy’n cynnwys rheolwyr, gyda chyfran sylweddol o gyfranddeiliaid yn weithwyr proffesiynol neu’n gwmnïau sector ynni gwybodus.

Ym mis Ebrill 2000, sicrhaodd Eclipse Energy gyllid sbarduno trwy gynnig cyfranddaliadau preifat, yn gwbl unol â Rheoliadau’r Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Rheoliadau Cynnig Sicrwydd yn Gyhoeddus. Yn ddiweddarach, ym mis Chwefror 2004, cwblhawyd dyroddiad hawlddewis llwyddiannus. Yn gynnar yn 2005, cododd Eclipse ychydig o dan £5m mewn rownd codi arian sefydliadol a arweiniwyd gan Oriel Securities.

Cyfarwyddwyr y Cwmni

 

 

     

 

Ch4 Clip

Channel 4 News
Interview with Ian Hatton

Ynni ar gyfer y dyfodol
Erbyn hyn, mae Prydain Fawr yn wynebu ‘bwlch ynni’. Am y tro cyntaf yn ein hanes diweddar rydym yn defnyddio mwy o ynni nag y mae modd i ni ei gynhyrchu. Yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, bydd ein cronfeydd nwy naturiol yn disbyddu a byddwn yn gynyddol ddibynnol ar ynni a fewnforir. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn archwilio’r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy a’n bod yn uchafu adfer ynni cynhenid y genedl. Rydym o’r farn y gall ynni gwynt chwarae rhan allweddol trwy gynhyrchu ynni o adnodd glân, helaeth a dihysbydd sydd ar gael am ddim.

Caiff ein prosiectau eu dominyddu gan ynni gwynt, ond bydd Prosiect Ormonde hefyd yn cynhyrchu ynni o ddau faes nwy bach, sef Gogledd Ormonde a De Ormonde. Mae datblygu’r meysydd gwynt a nwy ar y cyd fel hyn yn caniatáu rhannu isadeiledd a chostau gweithredu. Fel hyn, caiff ynni ei adfer yn fwy effeithlon o’r adnoddau naturiol alltraeth. Mae ein prosiect yn dangos ffordd unigryw ac effeithlon o harneisio cyfeintiau sylweddol o ynni cynaliadwy, carbon isel trwy ddatblygu ynni nwy a gwynt ar y cyd.